Mae’r sector Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol
yn cynnwys tair prif adran (yn fras): Gweithredwyr y Gwasanaethau
Bysiau; Gweithredwyr Gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol a thimau
Cludiant Teithwyr yr Awdurdodau Lleol. Yn yr adran hon, bydd cyflwr
pob un o’r rhain yn cael ei drafod ar wahân, ac yna
ceir awgrym beth yw’r sefyllfa gyffredinol.
Gweithredwyr y Gwasanaethau Bysiau – y brif gost i weithredwyr y gwasanaethau
bysiau yw cost llafur (60% o’r cyfanswm). Yn ail, y mae cost
tanwydd, sydd bron yn 17%; mae’r gorbenion yn 8%, cost
yswiriant a hawliadau yswiriant yn 3% a chost deunyddiau cynnal a
chadw yn 4.5%. Mae’r costau eraill yn ymwneud â rhenti
a phrydlesau, a dibrisiant asedau sefydlog. Yn ystod y 10 mlynedd
diwethaf mae costau gweithredwyr y gwasanaethau bysiau wedi cynyddu
31.3% mewn termau real. Ond mae’r cynhyrchiant wedi disgyn,
gyda nifer y cilometrau a weithredir gan bob gweithiwr wedi gostwng
tua 14% mewn 10 mlynedd. Nid yw’r rhesymau dros hyn yn eglur.
Mae pris tocynnau wedi codi o ychydig llai na thraean yn ystod y
degawd diwethaf (ychydig llai na’r cynnydd ym Mhrydain gyfan,
lle roedd y cynnydd yn 35.2%). Mae oedran y bysiau a ddefnyddir yng
Nghymru yn hŷn na’r targed cenedlaethol o 8 mlynedd, er
bod llawer o’r gweithredwyr yn cynnal a chadw eu cerbydau
mewn cyflwr ardderchog, beth bynnag eu hoedran. Roedd elw’r
gweithredwyr gwasanaeth bysiau mwyaf yng Nghymru yn ystod y 6
blynedd diwethaf rhwng 6.6 a 7.9%, ond mae hyn yn is na’r
lefel sydd ei hangen i sicrhau y gall y diwydiant gyflawni
disgwyliadau cynyddol y cwsmeriaid, mwy o gystadleuaeth gan geir
preifat a symudiad tuag at gerbydau ‘mwy gwyrdd’. Ond
mae hyd yn oed y lefel hon o elw yn sylweddol uwch na’r hyn a
wneir gan lawer o’r gweithredwyr llai, sy’n rhan
greiddiol o’r farchnad yng Nghymru. Gwelwyd llawer iawn o
newidiadau yn y farchnad gwasanaeth bysiau yn ystod y pum mlynedd
diwethaf. Yn eu plith yr oedd:
·
3
dull gwahanol o ariannu’r hyn arferai gael ei alw yn Grant
Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau
·
newidiadau i lefelau ad-dalu tocynnau teithio
rhatach
·
cyflwyno tocynnau rhatach newydd i bobl ifainc yn
ddiweddar
·
llai o gymhorthdal gan Awdurdodau Lleol yn sgil gostyngiad yn
y grant setliad refeniw
·
llai o gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru.
Ni chafwyd unrhyw gyfleoedd i sicrhau cyllid ar gyfer
bysiau newydd nac unrhyw fesurau o bwys i roi blaenoriaeth i fysiau
(megis cronfa’r Green Bus neu’r Bus Challenge yn
Lloegr) mewn ardaloedd trefol; hefyd, yng nghyd-destun lefel y
cyllid a gaiff Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau
yng Nghymru a’r niferoedd tipyn llai o deithwyr sy’n
defnyddio’r trenau o’u cymharu â’r bysiau,
mae tuedd i weld y farchnad bysiau fel rhywbeth trydydd dosbarth
(yn israddol i geir a threnau). Dylai bysiau fod yn greiddiol
i’n cymunedau ac i bobl Cymru, yn cysylltu pobl a chymunedau
â gwasanaethau a chyfleusterau sy’n sicrhau bywyd o
ansawdd da ac yn fodd o hwyluso teithiau gwaith a hamdden, yn
ogystal â rhai at ddibenion meddygol a
chymdeithasol.
Gweithredwyr Gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol
– Mae 114 o fudiadau yn darparu Trafnidiaeth Gymunedol
yng Nghymru, ac yn 2013 gwnaed dros 2 filiwn o deithiau
wedi’u trefnu gan y mudiadau hyn. Y gwasanaeth mwyaf
cyffredin a ddarperir ganddynt yw cynlluniau ceir yn y gymuned, ac
yn ail gwasanaeth Galw’r Gyrrwr dan Adran 19 a chynllun Cludo
Cleifion heblaw Cleifion Brys. Mae dros hanner y grwpiau
Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru yn seiliedig ar aelodaeth
o’r grŵp ac mae ganddynt tua 83,000 o aelodau
gweithredol (h.y. rhai sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth yn
ystod y 12 mis diwethaf). Mae’r aelodaeth wedi cynyddu 20% yn
ystod y pum mlynedd diwethaf.
Mae’r sector Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru
yn cynnwys 1,140 o gerbydau i gyd – yn geir, bysiau mini
hygyrch, a cheir a cherbydau hygyrch. Yn ystod y pum mlynedd
diwethaf mae oedran cyfartalog y cerbydau hyn wedi codi, ac y mae i
hyn oblygiadau o ran cynnydd yn y costau cynnal a chadw.
Y prif faterion sy’n wynebu’r sector
Trafnidiaeth Gymunedol ar hyn o bryd yw:
·
cyllid – mae’r arian sydd ar gael i newid neu
uwchraddio cerbydau wedi lleihau yn ystod y pum mlynedd diwethaf
wrth i gyllid y sector cyhoeddus gael ei gyfyngu ac i gyfleoedd
cyllido eraill brinhau
·
gwirfoddolwyr – codi oedran ymddeol, llai o ddiddordeb
mewn bod yn rhan o gynllun mwy strategol, newidiadau i drwyddedu
gyrwyr (dileu hawl awtomatig i yrru bysiau mini o 1997 ymlaen),
cyflogwyr yn llai cefnogol i rai sydd am wirfoddoli
·
tocynnau teithio rhatach – mae llawer o ddefnyddwyr
gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol yn oedrannus neu â
phroblemau symud, a bydd llawer yn defnyddio tocynnau teithio
rhatach. Ond ni ellir defnyddio’r tocynnau rhatach hyn ar
wasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol a weithredir dan Adran 19. Mae
hyn yn golygu bod teithiau yn ddrutach i ddefnyddwyr bregus
iawn.
Mae’r sector Trafnidiaeth Gymunedol yn dibynnu
ar lawer o ewyllys da a gwasanaeth cyhoeddus anhunanol, ac
mae’n darparu adnodd gwerthfawr drwy ganiatáu i rai o
aelodau mwyaf bregus y gymuned barhau i fyw’n annibynnol i
ryw raddau. Er hynny, mae’r sector yn ei chael yn anodd cwrdd
â’r galw oherwydd diffyg cyllid i gynyddu nifer y
cerbydau a chael rhai newydd yn lle’r rhai sy’n
heneiddio, prinder gwirfoddolwyr ac yn y pen draw diffyg cefnogaeth
gan yr Awdurdodau Lleol a’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol,
sydd i gyd yn wynebu cyfyngiadau cyllido llym.
Timau Cludiant Teithwyr yr Awdurdodau Lleol
- Mae gwahaniaethau sylweddol o fewn y rhanbarth o ran nifer a
lefelau sgiliau’r swyddogion sy’n gweithio i gefnogi
trafnidiaeth gyhoeddus neu gymunedol. Ond un peth sy’n
gyffredin yw fod cryn wasgfa wedi bod ar wariant ar drafnidiaeth
gyhoeddus yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Gan nad yw’n
wasanaeth statudol, mae trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol wedi
dioddef toriadau i’w chyllid. Mae hyn wedi cael effaith ar
nifer ac amlder y gwasanaeth bysiau sy’n cael cymhorthdal ar
draws y rhanbarth a hefyd wedi golygu bod llai o arian ar gael i
gefnogi gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol. Er bod arbediadau
ariannol sylweddol wedi’u gwneud drwy wella effeithlonrwydd,
ail-dendro a pheidio â llenwi swyddi gwag, cafwyd gostyngiad
mewn termau real yn y gyllideb ei hun yn ogystal â
swyddogaethau’r llywodraeth leol yn cefnogi a chynghori.
Ymddengys y bydd hyn yn parhau yn ystod y blynyddoedd nesaf hyn, a
chan fod nifer sylweddol o’r swyddogion cludiant teithwyr
dros 50 oed, mae’n debygol y gwelir prinder sgiliau yn y 10
mlynedd nesaf oni bai fod cynllunio dros dymor hirach yn digwydd o
fewn neu ar draws yr Awdurdodau Lleol.
Yn gyffredinol,
nid yw cyflwr presennol y sectorau bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol
yng Nghymru yn iach. Ceir rhai enghreifftiau o arferion da (system
integredig i gludo teithwyr, yn cynnwys Bwcabus, Traws Cymru a
gwasanaeth bws 460 yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, sydd
wedi arwain at gynnydd yn y defnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn;
gwasanaeth bysiau cymunedol yn lle gwasanaeth bysiau yng ngogledd
Gŵyr) a chynlluniau newydd (er enghraifft, cangen newydd o
Wasanaeth Bysiau’r Brifysgol sydd wedi’i datblygu i
gysylltu dau gampws Prifysgol Abertawe, sef campws Singleton a
champws y Bae). Mae llawer iawn o ewyllys da yn bodoli, yn ogystal
â pharodrwydd i geisio gwneud i bethau weithio’n well
ar gyfer teithwyr presennol a rhai newydd, ond mae’r
gefnogaeth yn lleihau ac nid yw’r cyllid sydd ar gael yn
annog ail-fuddsoddi neu gynnydd yn y tymor hir. Mae gwir angen
chwistrelliad o sefydlogrwydd a sylfaen ar gyfer twf i’r
dyfodol er mwyn sicrhau y gall bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol
ddarparu cyfleoedd teithio addas - o ran nifer ac ansawdd - i
breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.
|